Beergate: Sir Keir Starmer ddim i dderbyn dirwy gan Heddlu Durham
Ni fydd arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer a’i ddirprwy Angela Rayner yn derbyn dirwy gan Heddlu Durham ar ôl ymchwiliad i weld a wnaethon nhw dorri rheolau Covid-19.
Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud a digwyddiad ym mis Ebrill llynedd pan roedd y ddau ymysg cydweithwyr oedd wedi archebu pryd ac yfed cwrw mewn swyddfa yn y Miners Hall, Redhill, Durham.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Durham bod "swm sylweddol" o dystiolaeth ddogfennol a thystion wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad.
Roedd Keir Starmer wedi addo gwneud y "peth iawn" ac ymddiswyddo petai'n cael dirwy gan yr heddlu yn sgil honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid-19.
Mae wedi gwadu’r honiadau fod y digwyddiad wedi torri rheolau Covid-19 gan ddadlau mai egwyl o'i waith oedd yr hyn ddigwyddodd ac fe aeth pobl ati i barhau â'u gwaith ar ôl iddyn nhw gael bwyd.
Roedd rheolau pellhau cymdeithasol mewn lle ac nid oedd pobl i fod i gymysgu dan do ar y pryd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: "Mae Keir Starmer ac Angela Rayner wastad wedi bod yn glir na chafodd unrhyw reolau eu torri yn Durham. Mae'r heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliad ac wedi cytuno gan ddweud nad oes achos i'w ateb."