'Dim polisïau newydd' i ddod gan Johnson ar ôl ildio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol
'Dim polisïau newydd' i ddod gan Johnson ar ôl ildio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol
Mae Boris Johnson wedi dweud wrth ei gabinet na fydd ei lywodraeth yn ceisio cyflwyno polisïau o'r newydd, yn ôl adroddiadau.
Daw hyn wedi iddo gyhoeddi y bydd yn ildio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol yn syth, cyn camu i lawr fel prif weinidog pan y bydd un newydd mewn lle.
Wrth siarad tu allan i Rif 10 Downing Street ychydig wedi 12:30 ddydd Iau, dywedodd mai dymuniad y blaid oedd y dylai fod arweinydd newydd mewn grym a hefyd prif weinidog newydd.
Ychwanegodd y byddai'r broses o ddewis arweinydd newydd yn dechrau'n syth gyda'r amserlen yn cael ei chyhoeddi wythnos nesaf.
Dywedodd ei fod wedi parhau yn y swydd gan ei fod yn credu "mai dyna oedd fy swydd a fy nyletswydd" i etholwyr y wlad.
"Rwy'n hynod falch o lwyddiannau'r llywodraeth hon o gwblhau Brexit, i greu perthynas gadarn gyda'r Cyfandir, gan adennill grym y wlad hon i greu ei chyfreithiau ei hun yn y Senedd."
O sgandal Owen Paterson i sgandal Partygate, mae’r sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths yn credu fod helynt Chris Pincher un sgandal yn ormod i Boris Johnson. pic.twitter.com/mDvUgtfO23
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) July 7, 2022
Dywedodd Mr Johnson ei fod yn falch o'r gwaith yr oedd wedi ei wneud drwy gyfnod y pandemig ag arwain y Gorllewin i sefyll i fyny i fygythiadau Vladimir Putin yn Wcráin.
"I'r arweinydd newydd...rwy'n dweud y byddaf yn rhoi cymaint o gefnogaeth i chi ag y gallaf.
"Ac i chi, cyhoedd Prydain, rwy'n gwybod y bydd llawer yn teimlo rhyddhad a hefyd efallai nifer fydd wedi eu siomi. Ac rwyf am i chi wybod pa mor drist yr wyf o fod yn rhoi'r gorau i'r swydd orau yn y byd."
🚨 YN FYW: BORIS JOHNSON YN SIARAD O DOWNING STREET 🚨 https://t.co/Lrm7Xrtswr
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) July 7, 2022
Fe anfonodd Mr Johnson neges i bobl Wcráin hefyd, gan ddweud y bydd y DU yn "parhau i gefnogi eu brwydr".
Ychwanegodd ei fod dros y dyddiau diwethaf wedi ceisio darbwyllo ei gydweithwyr mai ffolineb fyddai newid llywodraeth "pan rydym yn cynnig cymaint, pan fod ganddo ni fandad mor anferth a phan yr ydym dim ond ychydig bwyntiau tu ôl (i Lafur) yn y polau piniwn."
Ar ddiwedd ei araith fe ddiolchodd i'r cyhoedd am y "fraint anferth yr ydych wedi ei roi i mi."
Ymysg ei gefnogwyr tu allan i Rif 10 oedd ei wraig Carrie Johnson a nifer o'i brif gefnogwyr yn cynnwys Nadine Dorries a Jacob Rees-Mogg, ynghyd â staff cynorthwyol.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyfnod hynod gythryblus iddo'n wleidyddol, ac yn dilyn degau o ymddiswyddiadau gan weinidogion ac is-weinidogion yn ei lywodraeth.
Penderfynodd nifer o'i gyn-gefnogwyr mai digon oedd digon yn dilyn y ffrae dros benodiad Chris Pincher yn Ddirprwy Brif Chwip y ceidwadwyr, er gwaethaf honiadau o aflonyddu’n rhywiol yn ei erbyn.
The PM has made the right decision.
— Liz Truss (@trussliz) July 7, 2022
The Government under Boris's leadership had many achievements - delivering Brexit, vaccines and backing Ukraine.
We need calmness and unity now and to keep governing while a new leader is found.
Mae'r blaid Lafur wedi dweud nad oes modd i Mr Johnson barhau yn ei swydd fel prif weinidog dros dro, a'u bwriad yw cynnal pleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd.
Mae nifer o ASau Ceidwadol hefyd o'r farn nad oes lle i Boris Johnson aros fel prif weinidog ac fe ddylai fynd yn syth.
Yn fuan wedi ei gyhoeddiad fe ddywedodd Liz Truss, yr Ysgrifennydd Tramor, fod Mr Johnson wedi "gwneud y peth iawn". Mae Ms Truss yn un o'r ceffylau blaen yn y râs i olynu Mr Johnson.
Dywedodd mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol fod angen cyfnod o "lonyddwch ac undod nawr er mwyn llywodraethu tra bod arweinydd newydd yn cael ei ddarganfod."