Newyddion S4C

Boris Johnson yn cytuno i gamu i lawr fel prif weinidog

Sky News 07/07/2022
Boris Johnson

Mae Boris Johnson wedi cytuno i ymddiswyddo fel Arweinydd y Ceidwadwyr, ac i gamu i lawr fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i Mr Johnson wneud cyhoeddiad am amseriad ei ymadawiad yn ddiweddarach ddydd Iau.

Daw'r newyddion yn dilyn cyfnod hynod gythryblus iddo'n wleidyddol, ac yn dilyn degau o ymddiswyddiadau gan weinidogion ac is-weinidogion yn ei lywodraeth.

Penderfynodd nifer o'i gyn-gefnogwyr mai digon oedd digon yn dilyn y ffrae dros benodiad Chris Pincher yn Ddirprwy Brif Chwip y ceidwadwyr, er gwaethaf honiadau o aflonyddu’n rhywiol yn ei erbyn.

Roedd Mr Johnson wedi dadlau nad oedd yn ymwybodol o’r honiadau yn erbyn Mr Pincher, ond yn ddiweddarach fe ddaeth i’r amlwg nad oedd hynny’n wir a bod Mr Johnson wedi ei ffrifio ar y mater rai blynyddoedd yn ôl.

Fe gollodd Boris Johnson ddau ffigwr blaenllaw yn ei gabinet, y Canghellor Rishi Sunak a'r Gweinidog Iechyd Sajid Javid a'r ôl i'r ddau ymddiswyddo brynhawn dydd Mawrth, cyn i lu o weinidogion ac is-weinidogion roi'r ffidil yn y to a gadael y llywodraeth yn ddiweddarach.

Er iddo benodi olynwyr i'w gabinet yn dilyn yr ymadawiadau, nid oedd yn ddigon i gadw hyder ei blaid ynddo, ac fe ddaeth i'r casgliad mai'r peth gorau fyddai gadael ei swydd.

Mewn datganiad yn dilyn y newyddion, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies fod yr amser wedi dod i'r Ceidwadwyr ddewis arweinydd newydd er mwyn cyflawni addewidion maniffesto'r blaid dros weddill cyfnod y Senedd.

"Roeddwn wastad wedi dweud ei fod yn hanfodol i'r Prif Weinidog i gynnal hyder y wlad, y blaid a'r senedd. Yn amlwg nid dyma'r achos mwyach.

"Ynghyd â sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn 2019 fe wnaeth Boris sicrhau ein bod yn dychwelyd i ryddid allan o bandemig Covid-19. Yn anffodus mae nawr wedi dod yn hunod o anodd iddo ddelifro ar y mandad y gwnaeth ei sicrhau."

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, groesawu ymddiswyddiad Mr Johnson gan ddatgan bod "cael Llywodraeth sefydlog i'r Deyrnas Unedig yn angenrheidiol i bob un o'r pedair gwlad."

​​​​​​Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru bod Cymru yn "haeddu gwell a bod yn rhaid mynnu hynny."

Yn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds AS, bod y “y saga o’r diwedd drosodd.

“Roedd hi wastad yn amlwg nad oedd Boris Johnson yn ffit i fod yn Brif Weinidog, ac mae gan y rheiny sydd wedi ei gefnogi bron at y diwedd gyfrifoldeb am y llanast a’r difrod mae o a’i blaid wedi eu cael ar ein gwlad.”

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.