Galwad ar y llywodraeth i wella safonau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu

06/07/2022

Galwad ar y llywodraeth i wella safonau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu

Mae un o bwyllgorau'r Senedd o'r farn bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru “godi’r bar” a gwella safonau yn y sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amlinellu sut y dylai'r llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau dyfodol y sectorau wedi cyfnod cythryblus Covid-19.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud rhagor i sicrhau amodau gwaith teg yn y tri sector, wrth i gostau byw godi.

Wrth gynnig 18 o argymhellion, mae'r pwyllgor yn pwysleisio y bydd amodau gwaith gwael, ansicrwydd o ran swyddi a chyflogau isel yn ei gwneud hi'n fwy anodd i fynd i'r afael â phrinder enfawr o weithwyr yn y sectorau hyn. 

Ym maes lletygarwch a thwristiaeth, yr amcangyfrif ydy bod rhwng 70 a 75 % o'r gweithwyr yn ennill llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Dywedodd gweithwyr a roddodd dystiolaeth yn ddienw i’r Pwyllgor nad oeddent yn teimlo y gallent leisio eu barn i herio eu cyflogwyr nac i newid pethau yn y diwydiant.

O ganlyniad, dywedodd rhai iddyn nhw adael eu swyddi, am nad oes dewis arall, yn eu barn nhw.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi enghreifftiau o weithwyr sy’n teimlo’n anniogel yn y gwaith yn ystod y pandemig. 

Ond gyda gobeithion bod y sefyllfa'n gwella'n raddol, mae'r Pwyllgor yn credu bod cyfle i’r llywodraeth a’r diwydiant gydweithio i godi safonau a sicrhau dyfodol llewyrchus.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ba gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu i fusnesau sydd wedi goroesi yn sgîl Covid-19, gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf, hyblygrwydd o ran ad-daliadau benthyciadau, a threfniadau ardrethi busnes. 

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Paul Davies: “'Mae'n amlwg bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar y sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth.

"O ganlyniad, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi adferiad y diwydiannau hyn, ac yn eu helpu i ffynnu unwaith eto.

“Mae’r dystiolaeth a gawsom yn dangos cymaint o falchder y mae gweithwyr yn ei deimlo yn eu gwaith.

"Gyda phwysau costau byw yn cynyddu, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a’r sectorau eu hunain yn gweithio’n ddiflino i godi safonau ar gyfer eu gweithwyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu i sicrhau bod ganddynt ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru.

"Diolchwn i'r pwyllgor am eu gwaith. Bydd Gweinidogion yn ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion a wnaed maes o law."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.