Newyddion S4C

Cyhoeddi dyddiadau streicio gan weithwyr y Post Brenhinol

05/07/2022
Post Brenhinol

Mae undeb Unite wedi cyhoeddi manylion y dyddiadau pan fydd rheolwyr canolfannau dosbarthu'r Post Brenhinol yn mynd ar streic.

Dywed yr undeb y bydd 2,400 o weithwyr yn mynd ar streic rhwng 20-22 Gorffennaf.

Mae'r gweithredu diwydiannol dros gynlluniau'r Post Brenhinol i dorri 700 o swyddi a chwtogi cyflogau medd yr undeb.

Pleidleisiodd 86% o reolwyr o blaid streicio, ac mae Unite yn dweud na fydd sicrwydd y bydd nwyddau sydd yn cael eu postio ar ddiwrnodiau'r streic yn cael eu dosbarthu ar amser.

Fe all rhai gwasanaethau fel cludiant diwrnod nesaf a thracio eitemau gael eu gohirio hefyd.

Mae'r Post Brenhinol yn dweud fod yr undeb wedi camarwain eu haelodau am nifer y diswyddiadau ychwanegol.

Dywed y gwasanaeth fod Unite wedi anwybyddu cais i gywiro'r hyn sydd wedi ei ddweud wrth yr aelodau.

Dywedodd Swyddog Cenedlaethol Unite, sydd â chyfrifoldeb dros y Post Brenhinol: "Mae ein haelodau wedi eu gorfodi i'r sefyllfa o streicio oherwydd mae'r bobl sydd yn rhedeg y Post Brenhinol yn gwrthod gweld synnwyr.

"Mae'r Post Brenhinol yn gwybod beth maen nhw angen ei wneud er mwyn osgoi'r streic. Mae angen iddynt gamu yn ôl o wneud toriadau a gwneud cynnig synhwyrol  i aelodau Unite fydd yn adfer swyddi a thâl. Mae'r Post Brenhinol yn gallu fforddio gwneud yr hyn sydd yn iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.