Bachgen wedi ei osod ar restr amddiffyn plant cyn ei lofruddiaeth honedig gan ei nain a'i daid
Mae llys wedi clywed bod bachgen dwy oed wedi ei osod ar restr amddiffyn plant fis cyn iddo gael ei lofruddio yn honedig gan ei nain a'i daid.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug dystiolaeth am negeseuon rhwng Shannon Ives a gweithwyr cymdeithasol yn yr wythnosau cyn marwolaeth Ethan Ives-Griffiths yn 2021.
Roedd Shannon Ives, mam Ethan, wedi cael gwybod y byddai angen i weithwyr cymdeithasol Sir y Fflint weld y plentyn bob 10 diwrnod ar ôl iddo gael ei osod ar y rhestr ar 6 Gorffennaf.
Fe wyliodd y llys ddelweddau camera cylch cyfyng o ymweliad ar 5 Awst 2021 gan weithiwr cymdeithasol.
Wrth roi tystiolaeth, amlinellodd y Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones o Heddlu Gogledd Cymru negeseuon rhwng aelodau o’r teulu.
Mewn un roedd Shannon Ives wedi cwyno nad oedd ei mab “yn gwrando, fel arfer”.
Mae Michael Ives, 47 oed, a Kerry Ives, 46 oed, y ddau o Stryd Kingsley, Garden City, Sir y Fflint, yn gwadu marwolaeth Ethan yn eu cartref ym mis Awst 2021.
Maen nhw’n rhoi'r bai am ei farwolaeth ar ei fam, Shannon, 28 oed - ond mae’r erlyniad yn dweud nad oedd hi yn yr ystafell ac felly nad oedd hi’n gyfrifol am yr anafiadau angheuol.
Clywodd y rheithgor bod anafiadau “catastroffig i ben ac ymennydd” y plentyn.
Fe welodd patholegydd o’r Swyddfa Gartref 40 o anafiadau ar ei gorff, gan gynnwys toriadau, crafiadau a chleisiau, meddai’r erlyniad.
Dywedodd meddyg fod y cyfuniad o anafiadau yn gyson â “syndrom babi wedi ei ysgwyd”.
Mae'r nain a'r taid a Shannon Ives, a oedd o Nant Garmon, yr Wyddgrug, hefyd wedi pledio'n ddieuog i achosi neu ganiatáu'r farwolaeth, a chreulondeb rhwng 8 Mehefin ac 17 Awst 17, 2021.
Wrth gyflwyno’r achos yr wythnos diwethaf, dywedodd yr erlynydd KC Caroline Rees wrth y rheithgor fod Ethan yn ddwy flynedd a thri mis oed pan fu farw mewn ysbyty yn Lerpwl ar 16 Awst, 2021.
Cafodd ei ddisgrifio fel bachgen tawel ac, o ganlyniad i esgeulustod, yn “boenus o denau.”
Roedd amser y bachgen ifanc yng nghartref ei nain a’i daid yn gyfnod “cwbl druenus,” honnodd yr erlynydd.
“Cafodd ei dargedu gan gam-driniaeth ac esgeulustod y diffynyddion.”
Roedd Ethan wedi llewygu yng nghartref y teulu ar 14 Awst, 2021. Clywodd y rheithgor fod y nain a’r taid yn yr ystafell ar y pryd.
Dangosodd sgan CT waedu sylweddol ar yr ymennydd, meddai'r erlyniad.
Dywedodd y barnwr yr Ustus Griffiths wrth y rheithgor: “Rhaid i chi gadw meddwl agored tan ddiwedd yr achos.”
Mae’r achos yn parhau.