Newyddion S4C

Cymru yn colli mewn gêm agos yn erbyn Gwlad Belg

2025-05-09-Belgium-v-Cymru-JS-207.JPG

Roedd yna siom i Gymru ar ôl colli mewn gêm agos yn erbyn Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd nos Lun.

Colli o 4-3 oedd hanes tîm Craig Bellamy, wedi i Gymru frwydro yn ôl gyda pherfformiad arbennig yn yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru yn ail yng ngrŵp J, un pwynt y tu ôl i Ogledd Macedonia, a thri phwynt o flaen Gwlad Belg.

Ond mae Gwlad Belg wedi chwarae dwy gêm yn llai na Chymru yn yr ymgyrch hyd yma.

Fe wnaeth Craig Bellamy dri newid i'r tîm a enillodd o 3-0 yn erbyn Liechtenstein nos Wener. 

Daeth Chris Mepham i'r tîm yn lle Neco Williams yn sgil ei anaf, gyda Jordan James a David Brooks yn dechrau yn hytrach na Liam Cullen a Kieffer Moore. 

Cyn y gêm nos Lun, roedd Cymru yn ddi-guro yn eu naw gêm o dan Craig Bellamy. 

Roedd Gwlad Belg yn gobeithio am ganlyniad gwell wedi eu gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Macedonia yn eu gêm agoriadol yng ngrŵp J.

Hanner cyntaf

Gwlad Belg ddechreuodd gryfaf, fel y disgwyl, gyda'r tîm cartref yn hawlio'r meddiant agoriadol ac yn bygwth gyda dwy gic gornel.

Roedd gwaith amddiffynnol gan Brennan Johnson yn allweddol wrth geisio goresgyn pwysau agoriadol gan Wlad Belg. 

Fe gafodd Cymru eu cic gornel gyntaf o'r gêm wedi chwe munud ar ôl chwarae da lawr yr asgell dde gan Brennan Johnson a Harry Wilson, ond ni lwyddodd Joe Rodon i benio'n glir o'r croesiad. 

Ond fe gafodd cic o'r smotyn dadleuol ei rhoi i Wlad Belg ar ôl 12 munud wedi i bêl daro braich Brennan Johnson. 

Wedi dau wiriad VAR am gamsefyll a llawio yn erbyn Cymru, nid oedd newid i'r penderfyniad, gyda Romelu Lukaku yn sgorio gôl 89 dros ei wlad.

Dyblu wnaeth mantais Gwlad Belg dros Gymru ychydig funudau wedyn, gyda chwarae slic gan y tîm cartref yn y cwrt cosbi yn arwain at y capten Tielemans yn sgorio.

Cafodd David Brooks gyfle i gael un gôl yn ôl i Gymru ond fe wnaeth arbediad da gan Sels olygu mai parhau yn 2-0 oedd hi.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ôl 26 munud o chwarae gyda Jeremy Doku yn sgorio'r drydedd i'r tîm cartref. 

Ond daeth eiliad ryfeddol i Gymru ar ddiwedd yr hanner, gyda'r dyfarnwr yn dyfarnu cic gosb i Gymru, ac Harry Wilson yn sgorio o'r smotyn, a llygedyn o obaith.

Ail hanner

Doedd yna ddim newidiadau i Gymru ar ddechrau'r ail hanner.

Ond parhau â'r momentwm o ddiwedd yr hanner cyntaf wnaeth Cymru, gyda Brennan Johnson a Harry Wilson yn cyfuno cyn croesi at Sorba Thomas. 

Er yr amheuaeth gan VAR, fe gafodd gôl Thomas ei chaniatáu, gan olygu mai dim ond un gôl oedd Cymru ei hangen er mwyn ei gwneud hi'n gêm gyfartal.  

Roedd hi'n gêm llawer fwy cyfartal rhwng y ddau dîm yn yr ail hanner.

Roedd yna newidiadau i Gymru gyda hanner awr i fynd, gyda David Brooks a Jordan James yn gadael y cae, a Liam Cullen a Mark Harris yn dod ymlaen fel eilyddion.

Ac fe aeth pethau o fod yn dda i well i Gymru, gyda Harry Wilson yn dewis y pàs cywir i Sorba Thomas sy'n penio tuag at Brennan Johnson, sydd yna yn penio'r bêl i gefn y rhwyd i wneud hi'n 3-3.

Ond roedd y nerfau yn parhau i Gymru, gyda gôl ddadleuol gan Lukaku ddim yn cael ei chaniatáu wedi cyfnod hir o aros. 

Parhau yn 3-3 oedd hi wrth i'r gêm dynnu at ei therfyn. 

Ond fe sgoriodd un o sêr mwyaf y byd pêl-droed, Kevin De Bruyne, i Wlad Belg ar ddiwedd y gêm i'w gwneud hi'n 4-3. 

Buddugoliaeth i'r tîm cartref oedd hi ar ddiwedd y gêm, ond roedd hi'n ymdrech arbennig gan dîm Craig Bellamy i frwydro yn ôl yn yr ail hanner. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.