Newyddion S4C

Cefnogwr Cymru 'yn iawn' ar ôl syrthio o eisteddle uchaf stadiwm yng Ngwlad Belg

10/06/2025
Scott Rees ar y chwith
Scott Rees

Mae un o gefnogwyr Cymru wedi dweud ei fod yn iawn ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl syrthio yn y stadiwm wrth i Gymru chwarae yn erbyn Gwlad Belg nos Lun.

Dywedodd Scott Rees (sydd ar y chwith uchod): "Dwi'n iawn. Disgynais o'r eisteddle uchaf a thorri asgwrn bach yn unig yn fy nghefn. 

"Gobeithio fod pawb wedi cael noson dda."

Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Gallwn gadarnhau bod un cefnogwr gwrywaidd wedi syrthio o'r eisteddle uchaf i'r eisteddle isaf yn ystod y gêm yn Stadiwm y Brenin Baudouin ym Mrwsel heno.

"Roedd yn ymwybodol ac yn siarad ac mae bellach wedi cael ei gludo i'r ysbyty am brofion pellach."

Yn ôl adroddiadau gan lygaid-dystion fe syrthiodd adeg trydedd gôl Cymru yn erbyn Gwlad Belg, wedi peniad gan Brennan Johnson ar ôl 69 munud.

Dywedodd un llygad dyst ei fod wedi clywed “twrw uchel”.

"Rhuthrodd yr heddlu, stiwardiaid, parafeddygon draw ac fe gafodd tair, neu bedair rhes eu cau i ffwrdd,” meddai Ian Hamer wrth Radio Wales.

"Lledodd y gair yn gyflym fod cefnogwr Cymru wedi syrthio o’r eisteddle uchaf ac wedi taro rhai cefnogwyr wrth iddo gwympo.

"Yn ystod y 15 munud nesaf, roedd y parafeddygon yn trin y dyn ac yn y pen draw fe wnaethon nhw ei gludo allan ar stretsier a dod ag ambiwlans i gefn y cyntedd.

"Mae pawb yn falch o wybod bod y dyn a gwympodd yn iawn."

Colli oedd hanes tîm Craig Bellamy o 4-3 oddi cartref ym Mrwsel nos Lun yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Llun: Scott Rees

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.