Bachgen 15 oed wedi'i anafu ar ôl achos o saethu yng Nghaerdydd
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn achos o saethu yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i gyfeiriad yng Nghlos y Ffynnon ym Mhontprennau am 20.00 ddydd Sadwrn 7 Mehefin, mewn ymateb i’r digwyddiad.
Cafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau nad yw’n peryglu bywyd.
Mae’r heddlu wedi agor ymchwiliad i’r digwyddiad, gyda swyddogion yn parhau yn yr ardal wrth gynnal ymholiadau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Mark O’Shea, o Heddlu De Cymru: “Rydym yn deall y pryder y bydd y digwyddiad hwn yn ei achosi, ac rwyf am sicrhau’r gymuned leol bod timau o dditectifs a staff arbenigol yn gweithio’n gyflym i ddeall amgylchiadau'r hyn ddigwyddodd nos Sadwrn.”
Mae’r llu yn apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500180055.