Dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o saethu chwech o bobl yn farw yn Chicago

Mae dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o saethu chwech o bobl yn farw ystod parêd yn Chicago yn Unol Daleithiau America.
Cafodd 30 o bobl hefyd eu hanafu yn ystod gorymdaith Gorffennaf y 4ydd yn ardal Highland Park o'r ddinas yn Illinois.
Mae'r heddlu wedi arestio Robert E Crimo III, 22, mewn cysylltiad gyda'r ymosodiad a ddigwyddodd 10 munud ar ôl i'r orymdaith ddechrau fore Llun.
Yn ôl yr heddlu, fe ddechreuodd yr ymosodwr saethu at y rhai yn y parêd o ben to gerllaw gyda reiffl.
Dyw'r heddlu ddim yn credu bod y saethwr wedi cydweithio gydag unrhyw un arall i drefnu'r ymosodiad.
Rhagor o fanylion yma
Llun: Llywodraeth Highland Park