Newyddion S4C

Cyngor Casnewydd yn 'colli cyfle' wrth beidio cyfieithu arwyddion stryd i'r Gymraeg

Cyngor Casnewydd yn 'colli cyfle' wrth beidio cyfieithu arwyddion stryd i'r Gymraeg

NS4C 05/07/2022

Mae Cyngor Casnewydd wedi "colli cyfle" wrth beidio cyfieithu arwyddion stryd newydd y ddinas i'r Gymraeg.

Fe wnaeth Elin Maher, sy'n byw yng nghanol dinas Casnewydd, sylweddoli bod arwyddion stryd newydd y ddinas yn uniaith Saesneg.

Yn ôl Elin, mae hyn yn siom mawr wrth ystyried yr ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg yno.

"Dwi hefyd yn gweld e'n gyfle sydd wedi cael ei golli oherwydd yr ymdrech sydd yn mynd mla'n yn y ddinas gan nifer o grwpie, yr ysgolion, ein disgyblion ni, yr awydd am filiwn o siaradwyr erbyn 2050," meddai.

"Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle fel trigolion lleol i leisio barn ar hyn." 

'Codi ymwybyddiaeth yn anffurfiol'

Dywedodd Elin bod cyfieithu'r arwyddion i'r Gymraeg yn "fodd i fod yn codi'r ymwybyddiaeth yna yn anffurfiol a dyna beth dwi'n credu sydd yn siom fan hyn yw bod ni ddim wedi cymryd y cyfle yna i roi'r Gymraeg yn weladwy ar hyd a lled y ddinas."

Ychwanegodd Elin mai polisi Cyngor Casnewydd ydy bod yn rhaid defnyddio arwyddion dwyieithog ond bod hynny ond yn ddilys ar gyfer arwyddion newydd.

"Beth yw ystyr newydd? Ai arwydd newydd neu enw stryd newydd? Os mai arwydd newydd yw e, yna na ddyle ni fod yn cal cyfle i fod yn rhoi'r fersiwn Gymraeg arno?"

Yn ôl Elin, gall arwyddion ffyrdd adlewyrchu hanes lle er mwyn cofnodi hanes y Gymraeg yng Nghasnewydd, ac mae'r gymuned o blaid defnyddio'r iaith, mewn sgwrs neu yn weledol, yn y ddinas. 

"Mae'r gymuned yn awyddus. Ma' 'na Gymry Cymraeg, di-Gymraeg, ddysgwyr, siaradwyr newydd yn ein plith ni yng Nghasnewydd, sydd am roi barn ac am gael y drafodaeth fel bod ni yn gallu cynyddu'r ymwybyddiaeth a dangos bod Casnewydd yn ddinas ddwyieithog, amlieithog lewyrchus sydd yn wirioneddol cofleidio'r Gymraeg."

'Gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol'

Mewn datganiad, dywedodd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg eu bod nhw'n "ymwybodol fod arwydd enw stryd newydd uniaith Saesneg wedi ei osod yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ac rydym yn edrych i mewn i’r sefyllfa."

"Mae rhoi enwau Cymraeg i strydoedd, yn enwedig enwau sy’n perthyn i hanes a threftadaeth leol, yn fodd effeithiol o wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn y gymuned a chreu naws am le.

"Er nad yw safonau’r Gymraeg yn gorfodi awdurdodau lleol i greu enwau Cymraeg newydd ar strydoedd, nid oes unrhyw beth yn eu rhwystro rhag gwneud hynny os ydynt yn dymuno.

"Byddwn yn cysylltu gyda Chyngor Casnewydd a byddwn yn cyhoeddi datganiad llawn yfory."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd: "Mae'r cyngor yn cydymffurfio â'r safonau perthnasol fel y'u nodir gan Gomisiynydd y Gymraeg o ran enwi strydoedd ac arwyddion cysylltiedig. Dan ein polisi ar gyfer enwi a rhifo strydoedd, rhoddir enw dwyieithog i bob stryd newydd yn unol â hanes a threftadaeth yr ardal leol.

"Bydd enwau strydoedd presennol a osodwyd cyn i'n polisi gael ei fabwysiadu yn aros yn eu hiaith hysbys, boed hynny'n Gymraeg neu'n Saesneg. 

"Ar hyn o bryd rydym yn disodli nifer o hen arwyddion stryd yng nghanol y ddinas gyda rhai newydd. Bydd arwyddion newydd yn cael eu cynhyrchu yn unol â'n polisi."

Llun: Elin Maher

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.