'Erchyll, echrydus, hunllefus': Teuluoedd yn troi at wefannau cymdeithasol i ddarganfod gofalwyr

'Erchyll, echrydus, hunllefus': Teuluoedd yn troi at wefannau cymdeithasol i ddarganfod gofalwyr
Mae teuluoedd sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn gorfod hysbysebu am ofalwyr i’w hanwyliad ar Facebook.
Gyda’r sector gofal yn wynebu heriau sylweddol oherwydd diffyg staff, mae teuloedd anobeithiol yn recriwtio staff gofal-gartref ar eu liwt eu hunain.
Yn mhentre Dinmael, Sir Conwy mae Enid Edwards yn ysu i gael ei gŵr adref o’r Ysbyty. Mae Hywel mewn ysbyty yng nglannau Dyfrdwy ers fis Mawrth. Dywedodd: “Mae’n anodd iawn a dwi’n trio ‘ngore i gadw’n bositif. Mae’n rhaid i mi fod yn bositif achos dwi’n gwybod ei fod o’n gwella. Ond ar y llaw arall mae gen i hiraeth fawr amdano fo. Mae o wedi bod yn yr ysbyty ers dros dri mis a dwi’n disgwyl iddo fo ddod nôl.
“Dwi ‘di cael y cyfarpar i gyd ond does ‘na neb i edrych er ei ôl o. A dydw i ddim yn ddigon ffit i edrych ar ei ôl o fy hun.
"Dwi ‘di trio bob math o wahanol gymdeithasau a dwi ddim medru cael dim help iddo fo o gwbl. Dwi teimlo bo ni fatha pobol sydd ddim yn cyfri o gwbl achos bo ni bell medde nhw er bo ni reit ar y A5.”
Yr un yw’r broblem ym Mhen Llŷn hefyd. Er fod Iona Griffith, ei brawd a’i chwaer yn rhannu’r gofal am eu mam – maen nhw hefyd angen help gofalwyr. Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Dwi di trio hysbysebu ar Facebook, mewn siopau. Ar y funud 'sa neb i weld yn ymateb.
"Mae 'na adegau 'da chi'n meddwl 'da chi mynd i fod yn stuck ond d'ach chi'n cario 'mlaen a gobeithio ffeindio rhywun eto."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n buddsoddi mwy nag erioed mewn gwasanaethau iechyd a gofal i helpu i fynd i’r afael â’r heriau drwy Gymru.
Mae Cyngor Sir Conwy yn dweud fod ganddyn nhw, fel awdurdodau eraill, broblemau recriwtio a fod pethau wedi gwaethygu oherwydd costau tannwydd uchel.