Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd i geisio am arian o gronfa Llywodraeth y DU ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr

Newyddion S4C 29/06/2022

Cyngor Gwynedd i geisio am arian o gronfa Llywodraeth y DU ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr

Mae Cyngor Gwynedd am droi at Lywodraeth San Steffan am nawdd er mwyn ariannu ffordd osgoi newydd yn Llanbedr.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol ar eu penderfyniad i ariannu’r prosiect.

Mae’r trigolion lleol wedi bod yn galw am ffordd newydd ers degawdau i geisio lleddfu tagfeydd traffig drwy’r pentref, a'r gobaith yw y byddai ffordd newydd yn denu swyddi i’r ardal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n cyfrannu arian at y prosiect gwerth £14m gan na fyddai ffordd newydd yn helpu i gyrraedd eu targedau newid hinsawdd.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud mai ffordd newydd yw’r unig ateb i Lanbedr, ac felly'r bwriad yw gwneud cais am arian gan Lywodraeth y DU i lenwi’r bwlch.

Bydd y cais ar gyfer yr arian o'r gronfa Ffyniant Bro yn cael ei gyflwyno ddydd Iau. 

Dywedodd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, fod y cyngor yn ceisio am yr arian er mwyn "rhoi mwy o ddewisiadau trafndiaieth i bobl yn y rhan gwledig yma o’r sir."

“Fydd Cyngor Gwynedd yn rhoi cais i mewn am oddeutu £40 miliwn o arian ffyniant bro, levelling up, er mwyn dod â datblygiadau i Sir Feirionnydd o gwmpas Llanbedr," meddai. 

Image
Nia Jeffreys
Mae Nia Jeffreys yn dweud bod y cais wedi'i wneud er lles pobl Gwynedd

"Dwi’n meddwl mae o’n andros o bwysig, a fasa hwn yn medru bod yn rhyw fath o esiampl i weddill Cymru o datrysiadau sydd angen mewn ardal gwledig."

Bwriad y Cyngor yw gofyn i San Steffan am gymorth ariannol. Serch hynny, nid pawb sydd yn teimlo’n hollol gyfforddus am y penderfyniad i at San Steffan am arian. 

“Wna i’m gwadu, dwi ddim yn licio mynd ar ofyn Boris Johnson yn Llundain am ddim byd," ychwanegodd Ms Jeffreys.

"Ond ar ddiwedd y dydd, ein blaenoriaeth ni fel Plaid Cymru yng Ngwynedd ydy pobl Gwynedd, ac os mae angen yr arian i ddatblygu rhywbeth fydd o fudd pobl Gwynedd, mae’n gyfrifoldeb arnon ni i wneud y mwyaf o unrhyw symiau o arian sydd allan yna."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.