Pengwiniaid yn codi hwyliau trigolion cartref gofal
Fe fuodd pengwiniaid yn ymweld â thrigolion Cartref Gofal Pen-y-Bont yn Abertyleri ar ôl i un dyn lleol redeg marathon i godi arian ar gyfer yr ymweliad.
Daw’r pengwiniaid Humboldt o sŵ Heythrop Zoological Gardens, ac maen nhw'n tarddu o gyfandir De America. Eu henwau yw Widget a Pringle.
Dywedodd Barbara Marquez, Hyfforddwraig Anifeiliaid o fewn y sŵ, mai lles a diogelwch y pengwiniaid oedd y brif flaenoriaeth.
“Maen nhw wedi arfer â’r math yma o amgylchiadau ac yn arfer cael pobl yn gafael ynddyn nhw,” ychwanegodd.
“Gall y broses [o arfer] fod yn broses araf iawn neu’n hir iawn - mae’n dibynnu ar yr unigolyn - neu mae gennym rai fel Pringle, ar ôl ychydig o weithiau, oedd e’n hapus ei fyd.
“Mae pengwiniaid yn chwilfrydig iawn - maen nhw’n hoffi bod yn egnïol, gweld pethau newydd, gwneud pethau newydd, felly maen nhw’n berffaith ar gyfer y math yma o beth.”
Gareth Winmill oedd yn gyfrifol am godi’r arian ar gyfer yr ymweliad, fel modd o ad-dalu’r cartref am ofalu am ei nain a fu farw.
Rhedodd Gareth Farathon Llundain i godi’r arian.
“Roedd yn ddigwyddiad ychydig yn wahanol iddyn nhw - rhywbeth unigryw dw i’n gobeithio bydden nhw’n cofio," meddai.
“Nid dim ond ar gyfer y trigolion oedd hyn, ond i’r gweithwyr a’r teuluoedd sydd ynghlwm â’r cartref gofal hefyd.”