Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ailagor ar ôl cau am resymau iechyd a diogelwch
Fe fydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ailagor i'r cyhoedd ddydd Gwener ar ôl gorfod cau'n sydyn y penwythnos diwethaf.
Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd yr Amgueddfa: "Wedi i'r gwaith cynnal a chadw hanfodol cael ei gwblhau, mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi y bydd drysau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ailagor ar ddydd Gwener 7 Chwefror.
"Mae ein timoedd wedi bod yn gweithio'n barhaus i wneud y gwaith atgyweirio hanfodol yn y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol posibl er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn diwallu’r holl safonau diogelwch gofynnol.
"Rydyn ni’n cydnabod yr effaith a gafwyd ar ein hymwelwyr, ond diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, ynghyd â diogelu ein casgliadau, yw ein prif flaenoriaeth."
Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Amgueddfa, Jane Richardson: “Fel nifer o sefydliadau eraill ar draws Cymru a gweddill Prydain, mae rheoli a chynnal adeiladau sy’n heneiddio yn her barhaus.
"Hoffwn i ddiolch i’n staff a’n cyflenwyr sydd wedi gweithio ddydd a nos er mwyn datrys y broblem a helpu i leihau’r effaith ar ein hymwelwyr.
“Rydyn ni hefyd yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ddiffuant, amynedd a dealltwriaeth gan y cyhoedd yn ystod y cyfnod yma – rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl.”
Ddydd Sul diwethaf bu’n rhaid i'r Amgueddfa gau am gyfnod amhenodol “oherwydd materion cynnal a chadw’r adeilad a phryderon iechyd a diogelwch”.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Amgueddfa Cymru mai "problem fecanyddol gafodd ei hachosi gan fethiant cydran" oedd y rheswm dros gau’r adeilad.
Ar ôl bod ar gau am bum niwrnod, maen nhw bellach wedi cyhoeddi y bydd yr adeilad yn ailagor i'r cyhoedd ddydd Gwener.