Mynyddwraig o Lanrwst yn dringo Kilimanjaro 'er cof am Mabli'
Mynyddwraig o Lanrwst yn dringo Kilimanjaro 'er cof am Mabli'
Mae mynyddwraig o Lanrwst yn gobeithio cyrraedd uchelfannau Affrica er cof am ferch 13 oed a fu farw dwy flynedd yn ôl.
Mae Delia Roberts, 48 oed, yn teithio i Tanzania yr wythnos hon er mwyn dringo i gopa mynydd Kilimanjaro – mynydd ucha''r cyfandir.
Wrth ddringo’r 5,895 medr i’r copa, fe fydd yn gwisgo crys-t gyda llun o Mabli Dafydd, merch o Landdoged a fu farw’n sydyn yn 2022.
Dywedodd Delia, sydd yn ffrindiau gyda theulu Mabli: "Yn anffodus yn 2022, nath Mabli Dafydd farw yn ei chwsg, yn dawel. Mi oedd o’n adeg ofnadwy i teulu a ffrindiau hi.
“Does ‘na ddim byd fyswn i’n dymuno mwy na dod â Mabli yn ôl i’w mam a dad a gweddill ei theulu a’i ffrindiau."
'Cadw cof'
“Does 'na neb yn mynd i anghofio am Mabli ond dwi isho neud hyn i gadw cof hi fynd.”
Bydd Delia, sy’n fam i ddau, yn gwneud yr her i godi arian i elusen 2wish, sydd yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc.
Hyd yma, mae Delia wedi codi dros £3,000 ar gyfer yr elusen.
“Mae 2wish yn agos i fy nghalon i ac mae’n agos i bawb yn yr ardal yma rili,” meddai.
“Mae 2wish wedi helpu teulu ffrindiau Mabli ar ôl be nath ddigwydd iddi hi.
“Maen nhw’n rhoi cymorth profedigaeth i deuluoedd a ffrindiau ac maen nhw’n gneud gwaith yn yr ysgol efo ffrindiau, os maen nhw di gael eu heffeithio gan rhywun sydd di marw’n sydyn.
“Maen nhw di bod yn andros o dda, wedi bod yn help i lot o ffrindiau Mabli a’i theulu.”
Bron i chwe gwaith yn uwch na’r Wyddfa, mae’n cymryd o leiaf chwe diwrnod i gyrraedd copa Kilimanjaro. Fe fydd Delia yn rhan o griw o 13 fydd yn ceisio cyflawni’r gamp.
“Dwi’n neud lot o fynydda, dwi’n mynd bron iawn bob weekend yn Eryri i ddringo mynyddoedd,” meddai.
“O’n i just yn meddwl bod o’n her reit dda.
“Mae Kilimanjaro di bod ar y ‘to do list’, ond mae gen i blant. Maen nhw di tyfu i fyny rŵan, so oni’n meddwl 'na rŵan di’r amser rili, maen nhw’n ddigon hen.”
Heriau
Ar ôl misoedd o baratoi yn y gampfa ac yn Eryri, mae Delia yn teimlo’n barod am y ddringfa o’i blaen, ond mae hefyd yn ymwybodol o heriau'r amodau ac uchderoedd eithafol.
“Da ni’n cychwyn dydd Iau ac mae’n cymryd saith diwrnod.
“Maen nhw’n gymryd o’n ara’ deg achos mae’n rhaid i bawb acclaimataisio rili.
“Os ‘da chi yn mynd yn rhy sydyn, fyddwchchi’n sâl. So maen nhw’n mynd yn ara’ deg, just i acclaimataisio. So mi fydd o’n saith diwrnod yn campio ar y mynydd.
“Dwi'n edrych ymlaen. Dwi'n poeni dipyn bach am yr altitude sickness, cos ti’m yn gwbod tan ti’n cyrraedd os ma hynny’n mynd i effeithio chi.
“Ond mi fydd Mabli yn fy nghalon ac yn fy meddyliau ar hyd bob cam i fyny Kilimanjaro.”