Newyddion S4C

Noson drychinebus i Boris Johnson wrth i'r Ceidwadwyr golli dau is-etholiad

24/06/2022

Noson drychinebus i Boris Johnson wrth i'r Ceidwadwyr golli dau is-etholiad

Mae'r blaid Geidwadol wedi wynebu noson drychinebus yn sgil canlyniadau dau is-etholiad wythnosau'n unig wedi i'r Prif Weinidog Boris Johnson wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill isetholiad Tiverton a Honiton a Llafur wedi ennill isetholiad Wakefield yn dilyn pleidlais ddydd Iau.

Yn sgil y canlyniadau mae aelod o'r cabinet wedi ymddiswyddo - Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Oliver Dowden.

Mae etholaeth Tiverton a Honiton yn Nyfnaint wedi bod yn nwylo'r Ceidwadwyr ers iddi gael ei chreu yn 1997.

Cyn hynny, roedd etholaeth Tiverton wedi bod yn las ers 1924, gyda'r etholaeth wedi newid dwylo am y tro cyntaf mewn bron i 100 mlynedd.

Roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 24,239 (40.7%) yn 2019, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y trydydd safle tu ôl i'r blaid Lafur.

Roedd Neil Parish wedi bod yn AS yno ers 2010 ond fe ymddiswyddodd ym mis Mai yn dilyn honiadau ei fod wedi gwylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Wakefield yn etholaeth yn Swydd Efrog a gafodd ei chipio gan y Ceidwadwyr yn 2019 am y tro cyntaf ers 1932.

Roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 3,358 (7.5%) dros y blaid Lafur.

Mae'r sedd yn rhan o'r "Wal Goch" o seddi Llafur traddodiadol yng Ngogledd Lloegr, ac efallai fod y canlyniad yn awgrymu y gallai'r wal honno gael ei hail-adeiladu. 

Roedd y cyn-AS Imran Ahmad Khan wedi ei wahardd o'r blaid Geidwadol ym mis Mehefin 2021 ac fe ymddiswyddodd ym mis Mai wedi iddo gael yn euog o ymosod yn rhywiol ar blentyn.

Yn ogystal, yn oriau man bore Gwener, cyhoeddodd Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Oliver Dowden, ei fod yn ymddiswyddo yn sgil canlyniadau nos Iau.

Llun: Chatham House

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.