Cyhoeddi pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd yn y gorllewin
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi pum safle posib ar gyfer creu ysbyty newydd yn y gorllewin.
Fe fydd yr ysbyty newydd yn delio â gofal brys a gofal sydd wedi ei gynllunio.
Bydd ysbytai Glangwili yng Nghaerfyrddin a Llwynhelyg yn Hwlffordd yn dod yn ysbytai cymunedol, gyda bwriad iddyn nhw ddarparu unedau mân anafiadau hefyd.
Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu cyflwyno'r newidiadau i ddarpariaeth ysbytai Glangwili na Llwynhelyg tan i'r ysbyty newydd gael ei adeiladu.
Wythnos nesaf, fe fydd pobl o gymunedau ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn adolygu'r pum safle posib ar gyfer yr ysbyty newydd.
Mae'r lleoliadau fydd yn cael eu hystyried yn cynnwys:
- Tir ac adeiladau amaethyddol sy'n rhan o Fferm Kiln Park i'r gogledd o bentref Arberth
- Tir amaethyddol i ogledd-ddwyrain Hendy-gwyn
- Tir ac adeiladau amaethyddol sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd i ddwyrain canol tref Hendy-gwyn
- Tir ac adeiladau amaethyddol sy'n rhan o Lys Penllyne ar gyrion Pwll-trap
- Tir amaethyddol sy'n rhan o hen gaeau Bryncaerau nesaf at gyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr
Mae grwpiau ymgyrchu yn gwrthwynebu'r cynlluniau i israddio ysbytai Glangwili a Llwynhelyg ac mae disgwyl i ddyfodol Llwynhelyg gael ei drafod yn y Senedd wythnos nesaf.