Newyddion S4C

Achub y nofwraig Anita Alvarez wedi iddi lewygu yn y dŵr

Sky News 23/06/2022
S4C

Fe wnaeth hyfforddwraig y nofwraig, Anita Alvarez, achub ei bywyd wedi iddi lewygu yn y dŵr yn ystod Pencampwriaethau'r Byd Nofio.

Fe wnaeth Ms Alvarez fynd yn anymwybodol wrth iddi gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth nofio cydamseredig unigol yn Budapest ddydd Mercher.

Roedd yn rhaid i'w hyfforddwr, Andrea Fuentes, ruthro i'w helpu gan ddeifio i mewn i'r dŵr a'i thynnu hi yn ôl i wyneb y dŵr.

Roedd Ms Alvarez yn ymwybodol wedi iddi ddychwelyd o'r dŵr, ac mewn datganiad ar Instagram, dywedodd Ms Fuentes bod y nofwraig yn "oce ac mae'r doctoriaid wedi dweud ei bod hi'n oce hefyd."

Darllenwch fwy yma

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.