Newid enw Cymraeg ar ddatblygiad ym Môn i 'Sandy Retreat' yn codi gwrychyn
Mae cwmni datblygu ar Ynys Môn wedi codi gwrychyn nifer fawr o bobl ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl ailenwi datblygiad o naw o dai gydag enw Saesneg.
Yr enw gwreiddiol ar y datblygiad yn Llanfaelog oedd Gwel-yr-Wyddfa, ond fe wnaeth cwmni Anglesey Homes ei newid i Sandy Retreat.
Fe ddaeth ymateb chwyrn i'r newid enw gan lawer yn dilyn y cyhoeddiad.
Dywedodd Fiona Owen mewn neges ar Twitter fod y newid enw yn enghraifft o "goloneiddio" a bod y penderfyniad yn un "ofnadwy".
"Fe ddylai fod angen caniatâd cynllunio ar bobl i newid enwau tai ar Ynys Môn/Cymru".
Hi @AngleseyHomes. Perhaps you could explain what's happening here. This is a property at 9 Gwel yr Wyddfa, which you've now changed to 9 Sandy Retreat, yes? Is erasing the Welsh language/culture a part of your business plan? https://t.co/5lVArDItPJ
— Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth) June 22, 2022
Ychwanegodd fod yr enw Cymraeg yn un llawer gwell o gofio am leoliad yr eiddo.
Un arall oedd wedi ei gythruddo gan y newid enw yr aelod lleol o Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth A.S. Gofynnodd i'r cwmni "os oedd cael gwared ar yr iaith a diwylliant Cymraeg "yn ran o gynllun busnes y cwmni"?
Dywedodd Chris Gibson nad oedd yr enw newydd yn cydfynd gydag enwau gweddill yr ystadau tai yn yr ardal sydd gydag enwau Cymraeg.
"Fel un sydd wedi ei fagu yn yr ardal rwy'n meddwl ei fod yn afiach eich bod wedi gwneud hyn heb unrhyw ystyriaeth o deimladau pobl leol."
Gofynnodd Philip Evans ar Twitter i'r cwmni ail-ystyried y penderfyniad gan fod enwau llefydd ar ddatblygiadau newydd yn hynod o bwysig ac fe allai gefnogi neu niweidio treftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Anglesey Homes am ymateb.