Newyddion S4C

Gareth Bale yn ymweld â maes hyfforddi Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd

Mirror 22/06/2022
Gareth Bale - Cymru Wcráin

Fe wnaeth Gareth Bale ymweld â maes hyfforddi Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd fore Mercher a siarad gyda'r rheolwr, Steve Morison am y tro cyntaf. 

Mae'r sibrydion y gall Bale ymuno â'r clwb yn ei ddinas enedigol wedi cynyddu yn yr wythnosau diweddar.

Y gred ydy bod Bale wedi ymweld â'r maes hyfforddi fore Mercher i wneud rhywfaint o waith ffisio gyda staff Cymdeithas Bel-droed Cymru, sy'n rhannu cyfleusterau gyda'r Gleision. 

Mae'r Mirror yn adrodd y bydd capten Cymru yn gwneud penderfyniad am ei ddyfodol yn y dyddiau nesaf. 

Darllenwch fwy yma

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.