Enillydd Gwobr Nobel yn gwerthu ei fedal i godi £84 miliwn i blant Wcráin

Mae newyddiadurwr o Rwsia a dderbyniodd Wobr Heddwch Nobel wedi gwerthu ei fedal am £84 miliwn ac wedi rhoi'r arian i blant sydd wedi ffoi o Wcráin.
Fe gafodd Dmitry Muratov, golygydd papur newyddion Novaya Gazeta oedd yn feirniadol o'r Kremlin, ei wobrwyo ar y cyd â chyd-newyddiadurwraig o'r Philipinau, Maria Ressa.
Ond ddydd Llun, ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd, fe gafodd ei fedal ei gwerthu mewn arwerthiant.
Roedd y pris yn ddigon i dorri'r record a gafodd ei osod gan James Watson wedi iddo werthu ei fedal Gwobr Nobel am $4.76 miliwn (£3.8m) yn 2014.
Mwy ar y stori yma.
Llun: Gwobr Heddwch Nobel/YouTube