Tri wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn cemegolion yn gollwng yng Nghaerdydd

Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty wrth i’r gwasanaethau brys ddelio gyda chemegolion yn gollwng yn ardal Doc y Frenhines Alexandra yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n delio gyda chemegolion yn gollwng ac wedi cynghori pobl i gadw draw o’r ardal.
Roedd y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cynghori trigolion i gau eu drysau a ffenestri.
Roedd yr heddlu wedi gofyn i bobl i beidio â chysylltu â nhw oherwydd eu bod nhw’n ymwybodol o’r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub: “Roedd y digwyddiad yn ollyngiad nwy ar raddfa fach a gafodd ei drin gan beiriannydd ar y safle."
Darllenwch fwy yma.