Newyddion S4C

Kharkiv

Wcráin: ‘Byddwch yn barod i ymladd Rwsia mewn trydydd rhyfel byd’

Mail Online 19/06/2022

Mae uwch gadfridog byddin y DU wedi rhybuddio y bydd yn "rhaid ymladd a churo lluoedd Vladimir Putin mewn rhyfel ar y tir."

Dywedodd y Cadfridog Syr Patrick Sanders wrth filwyr y DU: “Mae’n rhaid i ni baratoi'r fyddin i ymladd yn Ewrop unwaith eto."

Daeth y Cadfridog yn bennaeth ar Fyddin y DU yr wythnos ddiwethaf ac ychwanegodd: “Mae maint y bygythiad gan Rwsia yn dangos ein bod wedi mynd i mewn i gyfnod newydd o ansefydlogrwydd.”

Roedd Prif Weinidog y DU Boris Johnson hefyd wedi dweud fod yn rhaid bod yn barod “am ryfel hir.”

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.