Newyddion S4C

Prydau bwyd am ddim i ddisgyblion derbyn yn dechrau ym mis Medi

20/06/2022
Plant yn darllen

Bydd cynllun prydau bwyd am ddim Llywodraeth Cymru yn cychwyn ym mis medi i ddisgyblion Dosbarthiadau Derbyn.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio Llafur/Plaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i weithredu’r cynllun i holl ddisgyblion cynradd gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod  £225m wedi’i neilltuo ar gyfer hyn dros y tair blynedd nesaf.

“O fis Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol Cymru i’w helpu i gychwyn cynnig prydau am ddim, gan ddechrau gyda’r dysgwyr ieuengaf. Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn barod i gychwyn y cynnig ym mis Medi, er mwyn sicrhau bod plant ar draws Cymru yn elwa ar y cynnig cyn gynted â phosibl.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru erbyn mis Ebrill 2023 bydd y rhan fwyaf o blant ym Mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn dechrau cael prydau ysgol am ddim, gydag awdurdodau lleol yn cael yr hyblygrwydd, y cymorth a'r cyllid i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim i'r rhai ym Mlynyddoedd 1 a 2 yn gynharach nag Ebrill os oes modd.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru: “Erbyn dechrau tymor yr haf, y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 yn gallu cael prydau ysgol am ddim.

Ni fydd cyflwyno'r cynllun cyffredinol yn effeithio ar y rhai mewn blynyddoedd hŷn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Y gobaith yw bydd pob disgybl ysgol gynradd yn cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Allweddol i helpu teuluoedd

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles:

“Ni ddylai plentyn fyth fod yn llwgu yn yr ysgol. Gyda llawer o deuluoedd yn teimlo’r esgid yn gwasgu oherwydd yr argyfwng costau byw, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymryd camau ymarferol i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.

“Mae ein rhaglen newydd o brydau ysgol am ddim i blant cynradd yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym yn ceisio helpu teuluoedd. Mae plant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, felly rydym yn dechrau gyda phrydau ysgol am ddim i ddosbarth Derbyn o fis Medi, ac yna bydd y rhan fwyaf o blant Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau hefyd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill nesaf."

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.