Geraint Thomas yn ail yn y Swisdir gydag un cymal i fynd
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn dal yn yr ail safle yn ras seiclo Tour de Suisse gydag un cymal i fynd.
Daeth Thomas yn bumed, dros ei dîm Ineos Grenadiers, ar gymal saith y ras ddydd Sadwrn.
Mae e ddwy eiliad yn unig tu ôl i arweinydd y ras Sergio Higuita o Golombia gyda chymal olaf ddydd Sul yn ras unigol yn erbyn y cloc.
Mae’r ras wedi cael ei tharfu gan Covid gyda nifer o gystadleuwyr yn gorfod tynnu allan ynghyd â thri thîm yn gyfan gwbl.
Roedd y Cymro Stevie Williams wedi gwisgo'r crys melyn yn gynharach yn y ras cyn cwympo nôl.
Dywedodd Thomas: “Gyda’r gwres a’r uchder roedd rhaid bod yn ofalus. Rwy wedi reidio’n dda heddi yn erbyn y gwynt. Mae’n dda i fod nôl yn ei chanol hi ar ôl gaeaf anodd.”
Llun: YouTube/Pro Cycling News