'Amhosib ail-frandio Cymru o achos y tywydd, yr iaith a'r diffyg croeso'
Mae'n amhosib ail-frandio Cymru fel gwlad ddeniadol o achos y tywydd gwael, cymhlethdod yr iaith a'r diffyg croeso medd sylwebydd blaenllaw.
Dydy pobl y gogledd "ddim yn ystyried unrhyw un sydd wedi eu geni i'r de o Gaernarfon yn Gymru go iawn" chwaith, meddai Janet Street-Porter yn ei cholofn i MailOnline.
Aeth Ms Street-Porter, sy'n hanner Cymraes, ymlaen i ddweud fod y Gymraeg yn "annealladwy" ac yn un o'r ieithoedd "anoddaf yn y byd i'w meistroli mewn cyfnod byr".
Disgrifiodd hefyd ei phrofiad o gael ei "chloi mewn pentref Cymreig adfeiliedig am wythnos" ar gyfer rhaglen deledu realaidd, gan gael gwersi iaith wedi eu "gorfodi" arni o fore gwyn tan nos.
Roedd Ms Street-Porter yn un o'r enwogion a gymrodd rhan yng nghyfres Cariad@iaith yn 2004, gyda chyfranwyr eraill yn cynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Ruth Madoc ac Amy Wadge.
Roedd colofn Ms Street-Porter yn ymateb i alwad i "ail-frandio Cymru" gan arweinydd yn y diwydiant twristiaeth.
Dywedodd cyfarwyddwr Zip World, Sean Taylor, wrth Bwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher fod y wlad angen symud oddi wrth "defaid, tywydd gwlyb a...rygbi".