Ffilm am fywyd ffermwr o Ddyffryn Teifi yn ennill gwobr mewn gŵyl ffilmiau ryngwladol
17/06/2022
Mae ffilm am fywyd ffermwr o Ddyffryn Teifi wedi ennill y wobr am y rhaglen ddogfen fer orau mewn gŵyl ffilmiau ryngwladol yn Efrog Newydd.
Mae Heart Valley yn dilyn diwrnod o fyd gwaith Wilf Davies wrth iddo edrych ar ôl ei braidd o 71 o ddefaid.
Dim ond unwaith mae Mr Davies wedi gadael Cymru mewn 30 o flynyddoedd, ac mae'n bwyta'r un pryd bwyd i swper bob nos ers degawd bellach.
Mae ennill y wobr hefyd yn golygu y bydd y ffilm yn gymwys am Oscar.
Mae'r ffilm wedi ei chyfarwyddo gan Christian Cargill ac fe gafodd hi ei dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca.
Llun: Heart Valley/ Gŵyl Ffilmiau Tribeca