Un Nos Ola Leuad i gael ei throi yn sioe gerdd
Fe fydd Un Nos Ola Leuad yn creu hanes unwaith eto gan mai hi fydd y sioe gerdd gyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg i gael ei darlledu ar deledu ar draws y Deyrnas Unedig.
Fe fydd y ffilm yn cael ei darlledu i gynulleidfa fyd-eang yn dilyn partneriaeth rhwng S4C a Channel 4.
Mae'r sioe gerdd wedi'i hysbrydoli gan un o nofelau enwocaf Cymru gan Caradog Pritchard.
Yn ddiweddar, cafodd y nofel lled-hunangofiannol ei henwi fel un o'r 70 llyfr gorau yn hanes Prydain fel rhan o ddathliadau Jiwbilî'r Frenhines.
Marc Evans fydd yn cyfarwyddo'r prosiect tra bydd Gareth Glyn yn recordio'r sgôr gyda Cherddorfa Opera Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, bod "Un Nos Ola Leuad yn nofel rymus a dewr ac yn un o ddarnau o lenyddiaeth mwyaf arwyddocaol Prydain".
"Teyrngarwch a brad, gobaith ac anobaith mae’r stori yn ddarn o waith swynol a sinistr y gobeithiwn y bydd yn swyno cynulleidfaoedd byd-eang ac yn dod â phersbectif newydd i’r clasur," meddai.
Ychwanegodd Ian Katz, Prif Swyddog Cynnwys Channel 4, ei fod yn "falch" i gydweithio gyda S4C ar y prosiect.
"Er ei bod yn digwydd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r gwaith tragwyddol hwn yn ymdrin â themâu tlodi ac iechyd meddwl ac yn parhau i fod yn berthnasol iawn heddiw.
"Un Nos Ola Leuad fydd yr opera Gymraeg gyntaf erioed i’w darlledu ar deledu Prydain ac mae’n enghraifft wych o’r math o raglenni gwasanaeth cyhoeddus nodedig y gall Channel 4 sy’n eiddo cyhoeddus wedi'i lywio gan bwrpas eu darparu.”