'Mwy o opsiynau' trafnidiaeth ar gael cyn penwythnos prysur yng Nghymru
'Mwy o opsiynau' trafnidiaeth ar gael cyn penwythnos prysur yng Nghymru
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd "mwy o opsiynau" trafnidiaeth ar gael wrth i Gymru baratoi ar gyfer penwythnos o ddigwyddiadau mawr.
Yn y brifddinas fe fydd y Stereophonics yn chwarae cyngerdd yn Stadiwm Principality tra gerllaw yng Nghastell Caerdydd bydd gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal.
Yn y gogledd, bydd nifer yn teithio i Fae Colwyn er mwyn gwylio Noel Gallagher and the High Flying Birds.
Yn ddiweddar, mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i feirniadu dros ei allu i ymdopi gyda niferoedd mawr o deithwyr.
Bu cwynion ar gyfryngau cymdeithasol o drenau gorlawn ac oedi sylweddol yn sgil cyngherddau Ed Sheeran a gêm ail-gyfle Cymru yn erbyn Wcráin yng Nghaerdydd.
. @tfwrail 2 carriages to Cardiff and already full at Bangor pic.twitter.com/NcaBn8d1Yf
— Wayne Jones (@penbonc) June 11, 2022
Yn ôl Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid Trafnidiaeth Cymru, Lowri Joyce, mi fydd gymaint o wasanaethau ar gael â sy'n bosib dros y penwythnos prysur.
"Mae'r holl drenau sydd ar gael allan ar y rhwydwaith a hefyd 'dan ni'n rhedeg gwasanaethau ychwanegol," meddai wrth Newyddion S4C.
"A 'dan ni hefyd yn darparu gwasanaethau bws ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth trenau sy'n rhedeg hefyd.
"Felly dwi meddwl penwythnos hwn bydd 'na llawer fwy o opsiynau i gymharu â phenwythnos diwethaf."
Yn ôl Ms Joyce, mae'r problemau diweddar wedi'u hachosi gan ddiffyg trenau wedi i rai cerbydau cael eu difrodi.
"Be' sy' di gael tipyn o effaith ar wasanaethau ni ydy oedd digwyddiad diweddar yn Cravenarms lle naethon ni golli cerbydau.
"Felly 'dan ni un neu ddau o drenau lawr yn anffodus.
"Ond fedrai dweud bod pob trên sy' gennom ni allan 'na."