Newyddion S4C

Canolfan hamdden yn Llandysul i leihau gwasanaethau yn sgil argyfwng costau byw

16/06/2022
Calon Tysul

Mae canolfan hamdden yn Llandysul wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod lleihau gwasanaethau yn sgil costau byw cynyddol.

Mae Calon Tysul wedi dweud eu bod "mewn perygl" yn sgil yr argyfwng costau byw.

Fe gafodd cyfarfod ei gynnal yr wythnos hon i benderfynu ar fesurau brys, sy'n cynnwys cyfyngu oriau agor a lleihau'r nifer o sesiynau sy'n cael eu cynnal.

Cafodd Calon Tysul ei ffurfio ym mis Rhagfyr 2017 wedi i Gyngor Sir Ceredigion drosglwyddo Canolfan Hamdden Llandysul i berchnogaeth Ymddiriedolwyr Canolfan Ddŵr Llandysul. 

Dywedodd Matt Adams, Rheolwr Calon Tysul: “Mae pyllau nofio wedi cael eu taro’n arbennig o galed gan gostau ynni cynyddol oherwydd yr angen i gadw dŵr ac adeiladau’n gynnes trwy gydol y flwyddyn.

"Rydym yn rhagweld gwariant o oddeutu £120,000 ar wresogi a goleuo o fewn y flwyddyn nesaf. Yn anffodus, rydyn ni’n cael ein gorfodi i gwtogi ar wasanaethau i ymdopi â’r sefyllfa.”

Y llynedd fe dderbyniodd Calon Tysul cyllid i osod paneli solar ar do'r ganolfan hamdden er mwyn galluogi'r ganolfan i gynhyrchu a storio trydan.

Serch hynny, mae'r ganolfan yn rhybuddio fod y cynnydd mewn prisiau wedi bod yn rhy gyflym er mwyn iddyn nhw sicrhau bod y cynllun yn ei le.

Dywed Calon Tysul y byddan nhw'n parhau i ddarparu gymaint o wasanaethau â phosibl yn ystod y cyfnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.