Newyddion S4C

Pwy oedd y Cymro roddodd enw i Ymddiriedolaeth Terrence Higgins?

19/06/2022
Terry Higgins.

Mae hi'n 40 mlynedd eleni ers i'r person cyntaf i gael ei enwi i fod wedi marw o salwch yn ymwneud ag AIDS yn y Deyrnas Unedig.

Roedd Terry Higgins yn Gymro, o dref Hwlffordd yn Sir Benfro yn wreiddiol.

Bu farw ar 4 Gorffennaf 1982 yn 37 oed.

Pan fu Terry farw, nid oedd pobl yn ymwybodol beth oedd HIV ac nid oedd triniaeth effeithiol ar gael tan 1996.

Fe adawodd Terry Hwlffordd yn 18 i ymuno â'r Llynges Frenhinol.

Wedi hynny aeth i fyw yn Llundain a gweithio yn y Senedd ar gyfer y gwasanaeth cofnodi seneddol Hansard, a gweithio tu ôl i'r bar ac fel DJ yng nghlwb nos Heaven.

Fe syrthiodd Terry un noson yn Heaven a chael ei gludo i Ysbyty St Thomas's lle gafodd ddiagnosis o niwmonia parasitig.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth ei bartner Rupert Whitaker a'u ffrind Martyn Butler sefydlu Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i godi ymwybyddiaeth o'r salwch.

Cafodd y ddau OBEs yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines eleni am eu gwaith.

Cafodd portread o Terry Higgins yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Hwlffordd ei ddadorchuddio yn y Senedd ddydd Mercher.

Cafodd ei greu gan yr artist Nathan Wyburn o Gaerdydd fel rhan o ddigwyddiad i edrych ar orffennol, presennol a dyfodol HIV yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud wythnos hon eu bod yn bwriadu cael gwared ar holl achosion newydd HIV erbyn 2030 fel rhan o gynllun newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.