Kevin Spacey yn y llys i wynebu cyhuddiadau o ymosodiadau rhyw

The Independent 16/06/2022
S4C

Mae'r actor Kevin Spacey wedi ymddangos mewn llys ynadon yn Llundain i wynebu cyhuddiadau o ymosodiadau rhyw yn erbyn tri dyn.

Fe ymddangosodd Mr Spacey, 62 oed, yn Llys Ynadon Westminster fore dydd Iau.

Mae'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn deillio'n ôl i ddigwyddiadau honedig rhwng 2005 a 2013 tra'r oedd yn gyfarwyddwr artistig ar theatr yr Old Vic.

Mae'r actor, sydd yn enwog am ei rannau yn American BeautyThe Usual Suspects a House Of Cards wedi dweud yn flaenorol ei fod yn ffyddiog y bydd yn ennill yr achos.

Darllenwch ragor yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.