Cynnal gwasanaeth i nodi 40 mlynedd ers Rhyfel y Falklands
16/06/2022
Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd er mwyn nodi 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel y Falklands.
Bydd Eglwys Gadeiriol Llandaf yn cynnal Seremoni Goffaol Genedlaethol Cymru nos Iau er mwyn cofio am y rhai a gafodd eu lladd yn ystod y gwrthdaro.
Dechreuodd y rhyfel ym mis Ebrill 1982 pan heidiodd milwyr yr Ariannin i ynysoedd y Falklands, a oedd yn rhan o diriogaeth y Deyrnas Unedig.
Bu farw 225 o filwyr o Brydain a 649 o filwyr o'r Ariannin yn ystod y rhyfel a barhaodd am 74 diwrnod.
Mae'n un o'r rhyfeloedd mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.