Brexit: Y Comisiwn Ewropeaidd yn dechrau achosion cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dechrau dau achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU wedi i weinidogion San Steffan gyhoeddi cynlluniau i anwybyddu rhai rheolau gafodd eu gosod ar fasnachu rhwng Gogledd Iwerddon yn dilyn Brexit.
Mae'r llywodraeth wedi argymell cael gwared ar wirio rhai nwyddau o weddill y DU sydd yn cyrraedd Gogledd Iwerddon.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd dirprwy lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maroš Šefčovič, fod argymhellion San Steffan yn "anghyfreithlon".
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod gweinidogion wedi eu siomi gan y camau cyfreithiol, gan eu disgrifio fel "cam yn ôl."
Darllenwch ragor yma.