Angen 'gweithredu ar unwaith' i sicrhau fod cleifion yn gadael ysbytai yn gynt
Mae un o bwyllgorau'r Senedd yn dweud bod oedi cyn trosglwyddo cleifion o ysbytai yn arwain at fethiannau eang ar draws y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ôl adroddiad newydd beirniadol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae argyfwng staffio yn y sector gofal cymdeithasol sy’n golygu bod cleifion yn aros mewn ysbyty am ddyddiau, neu wythnosau yn hirach na'r angen.
Mae'r ddogfen yn nodi bod diffyg capasiti ym maes gofal cymdeithasol, ac yn sgil hynny bod teuluoedd a gofalwyr di-dâl yn cael eu gadael mewn sefyllfa amhosibl.
Un o sgil effeithiau hynny, yn ôl yr adroddiad, yw bod ambiwlansys yn methu trosglwyddo cleifion i’r ysbytai ac mae hynny’n arwain at giwiau yn yr adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Mae'r pwyllgor yn galw am weithredu ar unwaith i sicrhau nad yw cleifion yn gorfod aros cyhyd yn yr ysbyty ar ôl gwella o’u salwch.
Dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Y tu ôl i bob achos o oedi, mae person nad yw wedi cael y gofal a'r cymorth sydd ei angen i ganiatáu iddo neu iddi ddychwelyd adref, neu symud i rywle addas.
“Mae hyn yn gadael miloedd o berthnasau a gofalwyr di-dâl sy’n gorfod dewis rhwng gadael rhywun yn yr ysbyty neu benderfynu ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu eto.
“Mae clywed am ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys tra bod pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol yn aros am oriau - a hynny weithiau’n arwain at ganlyniadau sy’n peryglu eu bywyd - yn peri pryder mawr.
“Oni chymerir camau radical i newid y ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu a’i wobrwyo, a’r ffordd y telir amdano, nid ydym yn debygol o weld y newidiadau sydd eu hangen i atal cleifion rhag gorfod aros mewn ysbytai.
“Mae'n gwbl annerbyniol bod dros 1,000 o bobl mewn gwelyau ysbytai er y dylent fod wedi’u rhyddhau. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder i ddatrys y broblem hon.”
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wrth y Pwyllgor nad oedd nifer sylweddol o ambiwlansys ar gael i’w defnyddio ac, o ganlyniad, roedd cleifion yn aros heb gymorth am “gyfnodau hir iawn”.
Roedd yn cydnabod bod y gwasanaeth roeddent yn ei gynnig i gleifion yn annerbyniol, ond bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i wella’r sefyllfa.
Mae’r pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau ychwanegol i dâl ac amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol cyn gynted â bo modd
Mae’r adroddiad hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i dreialu slotiau rhyddhau penodol ar gyfer pobl â dementia i helpu cartrefi gofal, gofalwyr a theuluoedd i gynllunio’n well ar eu cyfer.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Arweinydd Y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies fod Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd wedi methu â delio a phroblemau yn y Gwasanaeth Iechyd.
“Ar gyfartaledd, mae pobl yng Nghymru yn treulio 7 niwrnod mewn ysbyty, bron ddwbl y cyfnod ar gyfer cleifion yn yr un sefyllfa yn Lloegr," meddai.
“Mae'n glir fod yr oedi wrth fynd i'r afael â'r materion hyn yn y sector gofal cymdeithasol yn niweidio gwasanaethau eraill."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, fel gweddill y DU, yn gweithio'n eithriadol o galed i ymateb i ystod gymhleth o heriau parhaus a sylweddol sy'n effeithio ar ryddhau pobl o'r ysbyty.
"Rydym yn buddsoddi'r symiau uchaf erioed mewn gwasanaethau iechyd a gofal i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pobl ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl gyda gofal priodol.
"Mae heriau'r gweithlu yn parhau i fod yn broblem ar draws pob sector, yn enwedig ym maes gofal cartref, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth i gefnogi recriwtio a chadw staff gofal yng Nghymru."