Cynnal angladd y cerddor a’r actor Dyfrig Evans ym Mhenygroes
14/06/2022
Cynnal angladd y cerddor a’r actor Dyfrig Evans ym Mhenygroes
Cynhaliwyd angladd y cerddor a’r actor Dyfrig Evans ym Mhenygroes yng Ngwynedd brynhawn dydd Mawrth.
Fe wnaeth rhai cannoedd fynychu gwasanaeth cyhoeddus er cof amdano yng Nghapel y Groes dan arweiniad y Parchedig Geraint Roberts.
Bu farw ar 26 Mai yn 43 oed ar ôl dioddef cyfnod o waeledd.
Yn enedigol o Benygroes, fe fu'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus ym myd y celfyddydau.
Daeth i amlygrwydd cenedlaethol mewn cyfresi teledu poblogaidd ac fel prif leisydd y grŵp Topper.