Gwylnos ger y Senedd i gofio pum mlynedd ers Grenfell
Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal y tu allan i'r Senedd nos Fawrth i nodi pum mlynedd ers y tân yn nhŵr Grenfell.
Bu farw 72 o bobl ac fe gafodd y tŵr o fflatiau yn Llundain, oedd yn gartref i fwy na 200 o bobl, ei ddinistrio ar 14 Mehefin 2017.
Mae'r digwyddiad wedi codi cwestiynau am y defnydd o fathau peryglus o gladin sy'n gorchuddio rhai cartrefi.
Yng Nghymru, dywed y llywodraeth eu bod yn "datblygu rhaglen ddiwygio sylweddol" i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau.
Mae'r digwyddiad ger y Senedd yn cael ei gynnal gan Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.
Yn ôl y blaid, mae'r digwyddiad yn gyfle i roi teyrnged i'r sawl a gollodd eu bywydau yn y trasiedi ac i sicrhau diogelwch i bawb yn eu cartrefi.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigon cyflym i sicrhau diogelwch adeiladau.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i lawer. Mae ein meddyliau heddiw gyda theuluoedd a ffrindiau pawb a gollodd eu bywydau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan drasiedi Grenfell.
"Mae'n ein hatgoffa'n gyson o bwysigrwydd cartref diogel.
"Mae hyn wrth wraidd ein gwaith parhaus i atgyweirio a diwygio diogelwch adeiladau yng Nghymru."
Fe gafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May, ddiwrnod wedi'r tân.
Mae'r ymchwiliad hwnnw yn parhau.
Llun: ChiralJon (Flickr)