Dyn oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes yn Noc Penfro wedi marw

Mae dyn oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio Lisa Fraser mewn tŷ yn Noc Penfro fis Mai wedi marw.
Roedd Matthew Harris wedi ei gyhuddo o lofruddio'r wraig 52 oed ar Fai 13, cyn cael ei gadw yn y ddalfa.
Ond mae Llys Y Goron Abertawe wedi cael gwybod bod swyddogion yng ngharchar Long Lartin yn Sir Gaerwrangon wedi eu galw i gell y dyn 41 oed o Hwlffordd, ac iddo farw y diwrnod canlynol.
Mae'r digwyddiad wedi ei gyfeirio at y crwner.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae teulu Miss Fraser wedi caee gwybod am farwolaeth Matthew Harris.
Mewn gwrandawiad byr ddydd Llun, cafod yr achos yn erbyn y ddifynnydd ei gau, ar ôl i blismon o Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau'r farwolaeth yn y llys.
Rhagor yma