Cyfraddau llog ar fencythiadau myfyrwyr i gael eu capio yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i osod cap ar gyfraddau llog ar fencythiadau myfyrwyr.
Bydd y cap yn dod i rym o fis Medi ymlaen ac yn para am flwyddyn.
Daw hyn wedi i Lywodraeth y DU osod cap ar gyfer benthyciadau myfyrwyr yn Lloegr dros y penwythnos.
Gobaith Llywodraeth Cymru yw cadw cyfraddau llog yn is na 12%, wedi i lefelau chwyddiant uchel achosi i gyfraddau ddechrau cynyddu'n gyflym.
O ganlyniad, bydd cyfraddau yn cael eu capio fel na allent fynd yn uwch na 7.3% ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.
Bydd y cap mewn grym ar gyfer unrhyw fyfyriwr israddedig ac olraddedig sydd wedi cymryd benthyciad ers 2012.
Ni fydd y newid yn effeithio ar ad-daliadau misol ar fenthyciadau myfyrwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn ceisio sicrhau nad yw'r argyfwng costau byw yn codi rhwystrau ar bobl rhag astudio yn y brifysgol.