Deddfwriaeth i ddiystyru rhannau o brotocol Gogledd Iwerddon i gael ei chyflwyno i'r Senedd

Bydd deddfwriaeth ddadleuol i ddiystyru rhannau o brotocol Gogledd Iwerddon yn cael ei chyflwyno yn San Steffan ddydd Llun.
Cafodd y protocol ei llunio fel rhan o gytundeb y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn osgoi ffin gadarn rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth.
Er hyn, mae rhai undebwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi dadlau bod y protocol yn tanseilio cytundeb heddwch Dydd Gwener y Groglith.
O ganlyniad, fe wnaeth Llywodraeth y DU cyflwyno cynlluniau i newid y protocol mis diwethaf, er gwaethaf honiadau bod y polisi yn torri cyfraith ryngwladol.
Yn ôl y Gweinidog Tramor, Liz Truss, bydd y newidiadau yn cadw'r rhannau o'r protocol sydd yn gweithio wrth ddiwygio'r rhannau sydd yn achosi problemau.
Ond mae rhai wedi rhybuddio bod y cynlluniau yn peryglu rhannau arall o'r cytundeb Brexit gan beri gofid o ryfel masnach gyda'r UE.
Darllenwch fwy yma.