Heintiau Covid-19 yn cynyddu am y tro cyntaf ers dau fis

Sky News 10/06/2022
S4C

Mae achosion Covid-19 yn y Deyrnas Unedig wedi codi am y tro cyntaf ers dau fis, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae'r cynnydd yn debygol o gael ei achosi gan gynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron gwreiddiol BA.1 a'r amrywiolyn newydd BA.4 a BA.5, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'n debyg bod cyfanswm o 989,800 o bobl mewn cartrefi preifat yn y DU wedi cael y feirws yr wythnos diwethaf.

Yng Nghymru, mae amcangyfrifon yn awgrymu bod un o bob 75 yng Nghymru wedi profi’n bositif, sy’n golygu bod 40,500 o bobl wedi cael y feirws yr wythnos diwethaf.

Dyma'r tro cyntaf i gyfanswm yr heintiau godi o wythnos i wythnos ers diwedd mis Mawrth.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.