Beth sydd ar ben rhywun sy'n talu £200 am het fwced Cymru?
Beth sydd ar ben rhywun sy'n talu £200 am het fwced Cymru?
Fyddech chi'n talu £200 am het fwced eiconig Cymru?
Dyna ydy'r math o brisiau sydd yn rhaid talu ar Ebay er mwyn bod yn berchennog ar het wreiddiol cwmni Spirit of 58 yn ddiweddar, gyda dros 50 o gynigion ar gyfer yr het lliw coch, gwyrdd a melyn.
Sefydlwyd Spirit of 58 yn 2010 gan gefnogwr Cymru ar gyfer cefnogwyr Cymru ac yn y ddegawd ddiwethaf, mae'r nwyddau i'w canfod yn eu miloedd ymysg y Wal Goch, gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ogystal â thramor.
Mae Mabon Dafydd yn un o'r Wal Goch, ac wedi dilyn Cymru ar draws Ewrop ar hyd y blynyddoedd gyda'r het fwced ar ei ben, ac yn ôl Mabon, yr het sy'n "crisialu profiad fi o ddilyn Cymru."
"Fi 'di bod i tipyn o wahanol wledydd gyda'r hat a gemau cartref hefyd wrth gwrs a 'swn i'n lico gweud 'falle bo' tipyn o atgofion yn mynd gyda'r hat hefyd sydd yn neis iawn."
Mae Mabon yn berchennog ar ei het ers o gwmpas saith mlynedd bellach, ac mae mor werthfawr iddo, mae'n rhaid iddo ei rhoi i aelod o'i deulu ar ôl y gêm.
"Wy'n eithaf ofergoelus am y peth. 'Sai'n lico mynd a fe mas gyda fi. Ma fe fel prized possession mewn ffordd i fi i ddeud gwir.
"Fi'n gweld e'n eithaf amharcus mewn ffordd i gwmni Spirit of 58 ac i'r holl waith ma' nhw 'di bod yn 'neud roi'r bucket hats 'ma mas i gefnogwyr Cymru.
"Chi'n gweld cannoedd ar filoedd o gefnogwyr Cymru yn y geme' 'ma yn gwisgo'r hetie ond nawr i bobl fynd mas 'na a gwerthu nhw am £200 ar y we, fi yn gweld e yn eithaf amharchus i 'weud y gwir achos ma'r cwmni 'di gweitho mor galed fel unofficial branding i'r tim cenedlaethol mewn ffordd."
Mae Mabon yn gobeithio mynd i Qatar a "bydd yn rhaid i'r het fwced ddod gyda fi yn bendant. Ma 'di dod i dipyn o wledydd gyda fi'n barod so yn sicr fi'n credu bydd e yn dod gyda fi i Qatar os fyddai'n mynd."