Newyddion S4C

Cynnal adolygiad i ddiogelwch ffordd ger Tal-y-llyn yng Ngwynedd

Newyddion S4C 09/06/2022
S4C

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddan nhw yn cynnal adolygiad i ddiogelwch ffordd yn ne'r sir yn dilyn nifer o ddamweiniau arni dros y blynyddoedd diwethaf.

Daw’r cyhoeddiad wrth i'r aelod seneddol lleol rybuddio bod y broblem yn un ehangach ar ffyrdd gwledig ar draws Cymru. 

Mae'r ffordd ger Tal-y-llyn wrth droed Cader Idris yn un droellog a chul - fel sawl ffordd wledig yng Nghymru.

Mae sawl damwain wedi bod yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys un angheuol bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Beth Lawton wrth raglen Newyddion S4C: “Fedrwn ni ddim cario 'mlaen ar hap.

“Drwy gael yr ymchwiliad yma gobeithio neith o ddangos rywle lle fedrwn ni falle gwella'r ffordd, neu arafu cyflymder, neu dim ond codi ymwybyddiaeth bobl i yrru mewn ffordd call ar hyd y lôn.”

Yn ôl perchennog un o'r gwestai ger y llyn, mae'r damweiniau'n digwydd yn rhy aml o lawer.

“Y cyfan sy’n ofynnol yn fy marn i yw gosod rhywbeth i fyny’r ffordd yn y gornel, neu ychydig y tu ôl i’r gornel, a lleihau cyflymder pobl i tua 40 milltir yr awr,” meddai Brian Matthews o westy Pen-y-bont.

Image
S4C
Mae Brian Matthews yn rhedeg gwesty ger y ffordd

“Nid oes un haf yn mynd heibio lle nad oes cerbyd sy'n mynd yn syth oddi ar ddiwedd y ffordd ac i mewn i'r llyn,” meddai.

Bydd yr adolygiad gan Gyngor Gwynedd yn edrych ar y ffordd o Dal-y-llyn i lawr i Fryncrug ger Tywyn.

Ond mae yna gwestiynau ehangach wedi codi hefyd ynglŷn â diogelwch ar hyd ffyrdd gwledig mewn mannau eraill o Gymru.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Liz Saville-Robert A.S. Dwyfor Meirionnydd: Ma'r Cyngor Sir yn mynd i fod yn mesur defnydd a chyflymder y ffordd ar hyd yr haf. Dwi'n falch bod hwn yn digwydd ar hyd yr haf achos yn amlwg dyna'r adeg fwyaf prysur.

“Ar ôl hynny byddwn ni'n edrych i weld pa mor ddifrifol ydy'r goryrru, 'da ni'n gwybod yn barod faint o ddamweiniau sydd di bod yma. Ond dwi'n gobeithio wedi hynny fydd gennom ni ddigon o dystiolaeth i roi cais i fewn i leihau'r cyflymder."

Image
S4C
Mae Marian Rees yn byw yn lleol

Ond yn ôl Marian Rees o ardal Tal-y-llyn, galw am bwyll ddylai'r neges fod.

"Di'r ffordd ddim yn beryglus, pobl sy'n beryglus. Beth sy'n berygl ydy cyflymdra trafnidiaeth. Mae'r ffyrdd yn iawn, mond i bobl i parchu nhw.

"Dwi di gofyn i Cyngor Gwynedd am roi arwydd 40 milltir yr awr o'r gornel acw lawr at ben draw y llyn mwy nag unwaith 'sneb di cymryd dim sylw o'r peth.

"Pam bod rhaid i ni o hyd addasu ar gyfer pobl sydd ddim yn defnyddio synnwyr cyffredin? A dim parch at bobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd?"

Wrth ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn cydweithio hefo Heddlu'r Gogledd i gael "gwell dealltwriaeth o'r holl ffactorau" yn ymwneud â’r damweiniau diweddar, a gweld a fyddai'n briodol i "gyflwyno mesurau ychwanegol".

Ychwanegodd ymgyrch ddiogelwch GanBwyll fod camerâu cyflymder statig yn gallu bod yn "llai effeithiol" weithiau, a bod camerâu sy'n mesur cyflymder cyfartalog yn gallu bod yn "fwy manteisiol" ar ffyrdd gwledig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.