Dau filwr o Brydain wedi'u dedfrydu i farwolaeth ar ôl cael eu dal yn ymladd lluoedd Rwsia

Mae dau Brydeiniwr gafodd eu dal gan luoedd sy'n deyrngar i Rwsia tra’n ymladd yn Wcráin wedi cael eu dedfrydu i farwolaeth.
Cafodd Aiden Aslin, 28, o Sir Nottingham, Shaun Pinner, 48, o Sir Bedford eu cadw yn y ddalfa ym mis Ebrill cyn ymddangos mewn llys yng Ngweriniaeth Pobl Donetsk, sy'n cael ei reoli gan wrthryfelwyr ar ran Rwsia.
Mae’r ddau wedi eu cyhuddo o fod yn hurfilwyr. Mae eu teuluoedd yn dadlau eu bod yn ymladd fel aelodau o fyddin Wcráin.
Dywedodd eu cyfreithiwr y byddan nhw'n apelio.
Mae trydydd dyn o Moroco, Saaudun Brahim, hefyd wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Telegram