Dewis dyddiad dedfrydu llofruddwyr Logan Mwangi

Mae dyddiad wedi ei ddewis ar gyfer dedfrydu'r tri unigolyn gafwyd yn euog o lofruddio'r bachgen Logan Mwangi yn 2021.
Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ddydd Iau, 30 Mehefin yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe gafodd mam Logan, Angharad Williamson, 30, ei phartner, John Cole, 39, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol o achos ei oedran, eu canfod yn euog o lofruddio'r bachgen pump oed ym mis Ebrill.
Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi ar lan Afon Ogwr ger pentref Sarn ar 31 Gorffennaf 2021.
Dywedodd y Barnwr, Mrs Ustus Jefford, mai dim ond un ddedfryd oedd yn addas ar gyfer pob un o'r tri diffynnydd, sef dedfryd oes.
Mae Williamson a'r bachgen 14 oed hefyd wedi’u cael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd Cole eisoes wedi cyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Darllenwch fwy yma.