Y Frenhines 'i fethu seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad'

Bydd Y Frenhines yn methu seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn yr haf yn sgil ei breuder cynyddol.
Mae disgwyl i'r Tywysog Charles ei chynrychioli yn ei lle yn y seremoni fis nesaf yn ogystal â Dug a Duges Caergrawnt.
Dim ond llond llaw o ddigwyddiadau'r gemau mae'r Frenhines wedi eu methu dros y saith ddegawd ddiwethaf, ond yn ddiweddar, mae hi wedi gorfod canslo sawl digwyddiad wrth iddi gael trafferthion symud.
Pan fydd y gemau yn dechrau ar 28 Gorffennaf, bydd Ei Mawrhydi yn Yr Alban ar ei seibiant haf, felly mae’n debygol y byddai teithio i Birmingham yn ormod o her iddi ar hyn o bryd.
Darllenwch fwy yma.