Llwyddiant pêl droed 'yn hwb i ddysgu hanes Cymru'
Llwyddiant pêl droed 'yn hwb i ddysgu hanes Cymru'
Mae un o brif haneswyr Cymru yn dweud y gall llwyddiant diweddar y tîm cenedlaethol ar y cae pêl droed fod yn sbardun i ddysgu hanes Cymru mewn ffordd “mwy positif” mewn ysgolion.
Yn y gorffennol mae Dr Elin Jones wedi bod yn feirniadol o’r ffordd mae hanes y wlad yn cael ei ddysgu gan ddweud nad yw wedi “ennill ei le mewn ysgolion ers y cychwyn”.
Ond mae’n dweud bod y golygfeydd o Dafydd Iwan yn cael ei groesawu gan y dorf yn Stadiwm Caerdydd tra’n canu ‘Yma o Hyd’ yn adlewyrchu newid yn agwedd y cyhoedd tuag at Gymreictod.
“O’n i yn cofio Dafydd Iwan yn protestio yn ôl yn y 60au. O’n i yn cofio'r agwedd negyddol, elyniaethus tuag ato fe gan drwch y boblogaeth yng Nghymru, bod e’n fachgen drwg, bod e’n sarhau y frenhines, Carlo ac ati. Mae gweld e nawr yn cael ei dderbyn fel ffigwr y sefydliad ar faes pêl droed wedi bod yn sioc i’r system a sioc iachus iawn i’r system.”
Mae’r newid meddai yn dangos bod pobl nawr yn fwy cynhwysol.
“Wy’n meddwl bod e’n adlewyrchu agwedd sydd wedi bod yn datblygu dros yr hanner canrif ddiwethaf i fod yn fwy parod i dderbyn gwahaniaethe, boed lliw croen, boed iaith, boed diwylliant, llawer mwy parod i dderbyn hynny nawr nag o’n i hanner canrif yn ôl, nag o’n i hyd yn oed chwarter canrif yn ôl.”
Effaith hynny mae’r academydd ac awdur yn gobeithio yw bod gan Gymry fwy o “falchder yn ein Cymreictod ni”.
“Nid achos bod ni yn well na neb arall ond achos bod ni yn haeddu bod ar yr un raddfa a bob un arall, bod ni yn haeddu’r parch ‘yn ni yn rhoi i bobl erill,” meddai.
“Wy’n teimlo bod hynny yn beth iachus iawn, yn beth positif iawn ac wy’n mawr obeithio bydd e’n helpu ysgolion i ddysgu hanes Cymru mewn ffordd fwy positif, mwy cynhwysol, mwy eangfrydig na mae wedi cael ei wneud yn y gorffennol.”