Rhybudd am 'effaith sylweddol' streic ar drenau Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio y gall eu gwasanaethau gael eu heffeithio gan streic Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) dros gyfnod o dri diwrnod yn ddiweddarach fis Mehefin.
Bwriad aelodau uneb yr RMT yw i fynd ar streic ar ddydd Mawrth 21 Mehefin, dydd Iau 23 Mehefin a dydd Sadwrn 25 Mehefin, ac fe allai hyn amharu ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled y DU.
Er nad oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT, mae'r anghydfod yn golygu na fydd Trafnidiaeth Cymru'n gallu gweithredu eu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Bydd mwyafrif y gwasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal, ac eithrio gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL) i’r gogledd o Radur yn Ne Cymru.
Bydd gwasanaethau i/o:
- Radur i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful (wedi'i leihau i wasanaeth bob awr i bob cyfeiriad), gyda chysylltiad gwasanaeth bws i Orsaf Ganolog Caerdydd. Mae disgwyl i'r gwasanaethau hyn fod yn brysur iawn.
- Ni fydd unrhyw wasanaethau ar y llwybrau CVL i Rymni, Coryton, Bae Caerdydd a Llinell y Ddinas gan mai Network Rail sy'n gweithredu'r signalau hynny.
Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol.
Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau teithio cyfredol o ddydd Llun 20 Mehefin i ddydd Sul 26 Mehefin ddefnyddio'r tocynnau hynny unrhyw bryd rhwng nawr a'r 20fed medd Trafnidiaeth Cymru. Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn drwy gysylltu â customer.relations@tfwrail.wales.