Cymru'n codi mwy na £13 miliwn ar gyfer apêl ddyngarol Wcráin
Mae cyfanswm o £13.3 miliwn wedi cael ei godi hyd yma yng Nghymru, a dros £350 miliwn ar hyd y DU, ar gyfer apêl ddyngarol Wcráin.
Dywedodd elusen DEC fod yr arian yn ei galluogi, gyda phartneriaid eraill, i sicrhau bod modd i’r miliynau y mae'r gwrthdaro yn effeithio arnynt gael mynediad at fwyd, arian parod, dŵr, lloches, cymorth meddygol, gwasanaethau diogelu, a gofal trawma.
Mae cyfanswm yr apêl yn cynnwys £25 miliwn o arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU, a £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Melanie Simmonds, Cadeirydd DEC Cymru: “Ers i ni lansio’r apêl hon ym mis Mawrth mae wedi bod yn fraint gweld y don anhygoel o garedigrwydd ac undod o du’r cyhoedd yma yng Nghymru tuag at bobl Wcráin.
"Mae teuluoedd, ysgolion, grwpiau cymunedol, grwpiau ffydd ac unigolion ledled y wlad oll wedi rhoi mor hael, fel y gwnaeth ein sectorau busnes, celfyddydol a diwylliannol.
“Gyda rhaglenni cymorth bellach wedi bod yn gweithredu ers tro, hoffwn hefyd gymryd y cyfle i gydnabod cyfraniad anhygoel gweithwyr dyngarol a gwirfoddolwyr yn Wcráin a’r gwledydd ffiniol.
"Mae cymaint ohonynt wedi rhoi eu hanghenion personol i’r neilltu mewn modd mor anhunanol, er mwyn helpu eraill i ymdopi â’r gwrthdaro dinistriol hwn.”
Basgedi bwyd
Mae’r elusen CAFOD, sy’n aelod o’r DEC, yn cefnogi prosiect dosbarthu bwyd torfol, trwy ariannu partner lleol o’r enw Depaul Ukraine, sydd wedi bod yn cyflenwi basgedi bwyd rheolaidd i 21,000 o bobl.
Mae’r rhain yn costio £10 yr un ac yn para pum diwrnod. Fel rhan o hyn, mae tîm o gludwyr ar feiciau yn dosbarthu bwyd i 700 o bobl sydd, oherwydd henaint neu anableddau, yn cael trafferth i adael eu cartrefi.
Dywedodd y Tad Vitaliy, o Depaul Ukraine, sy’n arwain y fenter feicio yn Kharkiv: “Mae’r argyfwng dyngarol yn y rhan hon o’r ddinas yn enfawr. Yr hyn a welaf yw bod pobl dlawd Wcráin llawer yn dlotach erbyn hyn. Yn ystod y tair mis diwethaf rydym wedi bod yn bwydo mwy na 21,000 o bobl dros Wcráin. Rydym yn canolbwyntio ar y rhai nad oes modd iddynt symud oherwydd eu hiechyd corfforol.
“Mae cariad yn ddyfeisgar hyd dragwyddoldeb. Mae gennym broblem fawr gyda phetrol erbyn hyn, ond diolch i ynni dynol, gall ein gwaith barhau.
"Mae yna nifer fawr o bobl ifanc sydd eisiau helpu eraill, a nhw ddechreuodd y fenter wych hon. Roedd gan un o’n cydlynwyr ffrind oedd wedi'i barlysu - 30 cilomedr i ffwrdd - ac roedd angen i rywun i fynd â bwyd iddo. Cynigiodd ffrind iddi ddosbarthu’r bwyd ar ei feic - a ganed syniad.
“Heddiw, cefais fy synnu i glywed fod y grŵp beicio bellach yn bwydo mwy na 700 o bobl. Mae rhestr ganddynt o bobl oedrannus neu anabl; a rhai yn eu mysg na all godi o’u gwelâu. Diolch i Dduw mae llai o saethu yma a llai o fomio nawr, ond mae'r angen dyngarol yn tyfu. Mae popeth wedi cael ei ddinistrio, ac mae pobl yn dod atom i ofyn am gymorth.”
Llun: DEC Cymru